Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2022

Amser y cyfarfod: 13.30
 


59(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, rhaglen fuddsoddi 2022-23

(45 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Strategaeth Ddigidol

(45 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU sy’n gyson â Sero Net - TYNNWYD YN ÔL

(0 munud)

</AI6>

<AI7>

6       Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2021 i 2022

(30 munud)

NDM7926 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 15 Chwefror 2022.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)            y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii)          yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii)         cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv)         cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v)          cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi)         manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

</AI7>

<AI8>

7       Dadl: Diwygiad i Setliad Llywodraeth Leol 2021-22

(15 munud)

NDM7952 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo’r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 (Setliad Terfynol - Cynghorau) diwygiedig. Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2022.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

(60 munud)

NDM7950 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).

Gosodwyd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 1 Tachwedd 2021. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) gerbron y Senedd ar 4 Mawrth 2022.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

</AI9>

<AI10>

9       Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

(5 munud)

NDM7951 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

</AI10>

<AI11>

10    Cyfnod pleidleisio

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 16 Mawrth 2022

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>